[Menai-LUG] O Lydaw i Gymru!
Kevin Donnelly <[email protected]> Tue, 5 Oct 2004 14:46:47 +0100
| Newsgroups | gmane.org.user-groups.linux.uk.menai |
|---|---|
| Message-ID | <[email protected]> |
1. Mae Thierry Vignaud wedi cyfrannu bron 10,000 o gyfieithiadau i Kyfieithu gan ddefnyddio sgriptiau sy'n copïo cyfieithiadau wedi'u cwblhau i lefydd eraill yn y ffeiliau. Mae hyn wedi ychwanegu 6% i'r cyfanswm. Mae KDE/KOffice wedi cyrraedd 55% rwan. Gweler http://www.cymrux.org.uk/item.php?lg=cy&item_id=14 2. Mae'r wefan Kyfieithu wedi ei symleiddio, ac is-gywaith newydd wedi'i ddechrau. Bydd "Hwyl a Sbri" yn cyfieithu'r 29 gêm sy'n dod efo KDE, ac ychwanegu 4% rhagor i'r cyfanswm. Mae 17% o'r llinynnau wedi cael eu cyfieithu eisoes. Gweler http://kyfieithu.co.uk 3. Mae'r 8,000 cyfieithiad o KOffice (gweler http://www.cymrux.org.uk/item.php?lg=cy&item_id=9) wedi eu hychwanegu i Kywiro, sy'n cynnwys bron 117,000 o linynnau rwan. Gweler http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro [Latest news on the translation work. Visit http://www.cymrux.org.uk for the full stories.] -- Pob hwyl (Best wishes) Kevin Donnelly www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg www.cymrux.org.uk - Linux Cymraeg ar un CD!